Cysylltwch â Ni

Sut alla i gysylltu â’r Grŵp Llywio?

Gallwch ymuno â’r Grŵp Llywio drwy ddod yn noddwr i’r prosiect ar Open Collective. I drafod manteision aelodaeth, anfonwch e-bost at universalviewerapp@gmail.com.

Sut alla i gysylltu ag aelodau’r gymuned?

Gofyn cwestiwn ar Slack

Y ffordd gyflymaf o gael cymorth yw drwy ein gweithle cymunedol ar Slack. Anfonwch e-bost at universalviewerapp@gmail.com i ofyn am wahoddiad i ymuno.

Rhoi gwybod am wall neu awgrymu nodwedd neu welliant

Os ydych wedi dod ar draws gwall neu os oes gennych syniad am nodwedd newydd gyffrous, edrychwch ar y materion sydd eisoes wedi’u cofnodi ar GitHub Universal Viewer cyn ychwanegu un newydd. Dim cyfrif GitHub gennych? Dewch i’n cyfarfod cymunedol neu cysylltwch â ni ar Slack i drafod eich syniadau gyda’r gymuned.

Ble alla i ddod o hyd i Universal Viewer ar y cyfryngau cymdeithasol?

SlackBlueskyMastodon